Cardiau Ryseitiau

Brocolli
Onion

Ers mis Chwefror 2012, mae’r Dylunydd Botanegol Debbie Devauden wedi bod yn gweithio gydag ysgolion cynradd lleol ar brosiect a gynlluniwyd i roi prawf ar eu sgiliau creadigol. Mae disgyblion o Ysgol Gymraeg Treganna ac Ysgol Gynradd Radnor Road wedi bod yn brysur yn tynnu llunio o wahanol ffrwythau a llysiau, a gaiff eu defnyddio mewn cyfres o gardiau ryseitiau dwyieithog.

Mae grwpiau celf lleol sy'n cwrdd yn Llyfrgell Treganna a Chanolfan Severn Road wedi bod yn gweithio gyda Debbie hefyd i ddylunio cardiau, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau gan gynnwys dyfrlliwiau a phastelau olew.

Caglwyd ryseitiau oddi wrth bobl leol drwy ddefnyddio Facebook a Twitter, a chaiff y rhain eu cyfuno gyda'r lluniau i greu’r cardiau. Yn ogystal â’r cardiau ryseitiau a gaiff eu dosbarthu, bydd arddangosfa o ddetholiad o waith yn ystod y dydd. Bydd cyfres arall o gardiau ryseitiau gan ysgolion lleol eraill yn cael ei lansio’n ddiweddarach yn y flwyddyn.

Caiff y set gyntaf o gardiau ryseitiau eu lansio yn y ‘Cinio Mawr’, digwyddiad a gynhelir yng Ngardd Gymunedol Chapter ddydd Sul 3ydd Mehefin, rhwng 12 a 4pm.

Byddwn yn gwahodd pawb a gymerodd ran yn y prosiect, yn ogystal â chyllidwyr, cefnogwyr a chynghorwyr lleol i ddod i’r digwyddiad a gweld arddangosfa o’r gwaith ac i flasu rhai o’r ryseitiau a grëwyd. Byddwn hefyd yn dosbarthu'r cardiau a bydd adloniant gan storïwyr a phobl yn paentio wynebau.