Latest News

Amdanon ni

Cawson ni ein sefydlu ym mis Mehefin 2009 gan Michael Goode, sy’n byw’n lleol, a Cerys Furlong, un o Gynghorwyr Treganna. Nod Gerddi Cymunedol Treganna yw annog trigolion lleol i gymryd rhan mewn ystod o ddigwyddiadau a phrosiectau yn ardal Treganna sy'n canolbwyntio ar arddio, cynaliadwyedd, ailgylchu a materion amgylcheddol.

Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau a digwyddiadau gan gynnwys:

  • Prosiect Perllan Caerdydd
  • Cadwch Gymru’n Daclus – casglu sbwriel
  • Ffair Gerddi Treganna, Parc Fictoria
  • Prosiect Lleihau Carbon Treganna
  • Sioe Flodau’r RHS, Caerdydd

Ym mis Mehefin 2010 a 2011, gwnaethon ni drefnu Ffair Gerddi Treganna ym Mharc Fictoria gan ddod â llwythi o fusnesau lleol, grwpiau cymunedol a phrosiectau ynghyd i dynnu sylw at yr ystod o brosiectau a sefydliadau yn yr ardal. Gwnaethon ni hefyd wahodd storïwyr a gwenynwyr lleol, tîm ailgylchu Cyngor Caerdydd a chrwban enfawr!

Rydyn ni hefyd yn aelodau o (FCFCG) – Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol ac roedd erthygl amdanon ni yng Nghylchlythyr y sefydliad hwnnw ym mis Mawrth 2011.

Yn ddiweddar roedd eitem amdanon ni ar raglen arddio S4C ‘Byw yn yr Ardd’ ym mis Ebrill 2012, fel rhan o’i stori am Sioe'r RHS, Caerdydd.