Supported by the Finnis Scott Foundation
Cawl Tomato Indiaidd Sbeislyd

(Yn flasus gyda reis brown neu daten bob ar gyfer pryd ysgafn)
Os ydych chi’n ffyslyd, gallwch chi dynnu’r croen oddi ar 700g o domatos, a thynnu’r canol allan hefyd. Weithiau rwy’n anwybyddu’r cam hwn. Torrwch y tomatos yn ddarnau mawr.
Cynheswch 3 llwy fwrdd o olew llysiau mewn padell, ychwanegwch 1 llwy de o hadau cwmin, ychwanegwch y garlleg wedi’i dorri, a phan fydd y cyfan yn frown, ychwanegwch 120 gram o winwns wedi’u torri’n fân, a tsili gwyrdd ffres wedi’i dorri (neu lwyaid o bowdwr tsili).
Ffriwch y cyfan am 2 funud, ychwanegwch y tomatos, ac 1 llwy de o sinsir ffres wedi’i gratio. Ychwanegwch 1 llwy de o halen a siwgr, dewch a’r cymysgedd i’r berw, rhowch y clawr ar y badell, a gadewch iddo fudferwi am 10 munud, gan ei droi i wneud yn siŵr nad yw’n llosgi.
Mae’r holl fesuriadau yn rhai bras, gallwch chi ychwanegu’r sbeisys yn dibynnu ar eich chwaeth bersonol.