Supported by the Finnis Scott Foundation
Cyri tomato, pwmpen cnau menyn ac ysgallddail

1 winwnsyn mawr, wedi'i haneru a'i sleisio
olew llysiau
2 lwy fwrdd past cyri madras
1 bwmpen cnau menyn (500g), wedi'i thorri'n dalpau
5 tomato, wedi'u torri'n chwarteri
100g ysgallddail, wedi'u torri'n fras
reis basmati wedi'i stemio, i weini
Coginiwch y winwnsyn mewn 1 llwy fwrdd o olew am 5 munud nes ei fod yn feddal. Ychwanegwch y past cyri a'i goginio am 3 munud. Ychwanegwch y bwmpen cnau menyn, y tomatos a 200ml o ddŵr a chymysgwch y cyfan yn dda.
Rhowch glawr ar y sosban a gadewch y cymysgedd i fudferwi am 15 munud nes bod y bwmpen cnau menyn wedi'i choginio a nes bod y tomatos wedi troi'n stwnsh. Ychwanegwch yr ysgallddail, trowch y cymysgedd a gadewch am ychydig funudau i wywo. Ychwanegwch halen a phupur a gweinwch gyda reis basmati.