Gardd Gymunedol Chapter

Ers mis Hydref 2009, rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chapter i ddatblygu gardd gymunedol yng nghanol Treganna, fel adnodd i'r gymuned leol, i wirfoddolwyr ac i ysgolion.

Mae cyfres o weithdai, ymarferion ymgynghori a dylunio wedi arwain at ardd fawr sydd yn bennaf â phethau bwytadwy ynddi ac a fydd yn cynnwys:

  • Tyfu Bwyd
  • Cyfranogiad Cymunedol
  • Prosiectau Ysgolion
  • Cyrsiau Hyfforddi
  • Ailgylchu a Chompostio
  • Gwirfoddoli
  • Cardiau Ryseitiau

Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2009 gyda thrafodaethau gyda Chapter am y posibilrwydd o ddatblygu gardd gymunedol. Ym mis Chwefror 2010, gwnaethon ni gynnal cyfres o weithdai ar arddio ymarferol gyda'r dylunydd gerddi lleol Michele Fitzsimmons o Edible Landscapes, a helpodd y grŵp i lunio cynlluniau a syniadau ar gyfer y safle.

Cafodd y cynlluniau hyn eu mireinio a’u datblygu i ffurfio sylfaen i’r cynllun yn gyffredinol drwy ymgynghori â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol, aelodau o Erddi Cymunedol Treganna a staff Chapter.

Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian a diwrnodau codi ymwybyddiaeth er mwyn codi arian at y prosiect, gan gynnwys stondinau yn Sioeau'r RHS yng Nghaerdydd a Ffair Gerddi Treganna ym Mharc Fictoria yn 2010 a 2011.

Ym mis Tachwedd 2010, darganfyddodd y prosiect ei fod yn un o'r wyth olaf o brosiectau a ddewiswyd o blith 100 o geisiadau yn nyfarniadau Miliynau’r Bobl yng Nghymru.

Felly, bant â ni i’r strydoedd - yn gwisgo fel llysiau a ffrwythau i ennyn cefnogaeth a phleidleisiau dros y ffôn i'r prosiect a chafodd disgyblion yn ysgol gynradd Radnor Road eu ffilmio fel rhan o stori ar ITV Cymru. Yn dilyn ymgyrch fywiog, dyfarnwyd £36,000 inni ym Miliynau'r Bobl y Loteri Fawr.

Dywedodd Michael Goode o Erddi Cymunedol Treganna ym mis Mawrth 2011:

“Mae wedi bod yn ddeuddeng mis prysur iawn i’r prosiect gyda gweithdai, digwyddiadau codi arian a sesiynau garddio rheolaidd yn yr ardd gymunedol, yn dod i’w diwedd gyda chyhoeddiad y dyfarniad yn fyw ar newyddion ITV Cymru gyda’r nos. Mae pawb wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau’r llwyddiant hwn ac mae wir wedi dod â'r gymuned leol ynghyd”.

Bydd y cyllid yn caniatáu i’r prosiect gychwyn ar rywfaint o’r gwaith tirlunio caled angenrheidiol ar y safle, yn ogystal â phrynu tŷ gwydr, offer garddio a chychod gwenyn.

Yn gynnar yn 2012, roedd disgyblion mewn ysgolion cynradd lleol ac oedolion yn mynd i ddosbarthiadau celf yn Nhreganna ac yn gweithio gyda Debbie Devauden, y dylunydd botanegol, i dynnu lluniau o wahanol ffrwythau a llysiau ar gyfer cyfres o gardiau ryseitiau dwyieithog, a gaiff eu dosbarthu i ysgolion a llyfrgelloedd lleol ac i Chapter.

Caiff y cardiau eu lansio yn y ‘Cinio Mawr’, digwyddiad a gynhelir yng Ngardd Gymunedol Chapter ddydd Sul 3ydd Mehefin, rhwng 12 a 4pm.

Gyda rhywfaint o gyllid ychwanegol oddi wrth Chapter, roedd yn bosibl i ni benodi Roger Phillips i swydd ran amser Garddwr a Gweithiwr Allgymorth. Bydd Roger yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol lleol ar ymweliadau â'r ardd gymunedol, ar arddio a chadw gwenyn. Mae wedi cael ei benodi am un diwrnod yr wythnos am chwe mis yn y lle cyntaf, a bydd yn yr ardd bob nos Fawrth a bore Iau.