Supported by the Finnis Scott Foundation
Maip Indiaidd sbeislyd gyda ffa coch

Powdwr sinsir
Turmeric
Tsili
Halen
400g o faip
1 winwnsyn
500ml o ddŵr
Tun o ffa coch
2-3 ewin o arlleg
Rhowch ½ llwy de yr un o bowdwr sinsir, turmeric a tsili ac 1 llwy de o halen mewn bowlen a chymysgwch yn bast gydag 1 llwy fwrdd o ddŵr.
Torrwch y maip yn chwarteri (4 darn i bob meipen) Gwresogwch 3 llwy fwrdd o olew mewn padell nes bod y maip yn frown ar bob ochr.
Tynnwch nhw allan o'r badell a ffriwch winwnsyn yn yr un olew. Pan fydd yn frown euraid, ychwanegwch 2 neu 3 ewin o arlleg wedi'u torri'n fras. Ar ôl ychydig o eiliadau, ychwanegwch y past sbeislyd, trowch y cymysgedd a ffriwch am funud neu ddwy, yna rhowch y maip yn ôl yn y badell. Ychwanegwch tua 500ml o ddŵr neu stoc, a phan fydd wedi dod i'r berw, trowch y gwres i lawr gan adael y cyfan i fudferwi tan fod y maip yn feddal.
Ychwanegwch y tun o ffa coch heb y sudd ac ail-gynheswch y cymysgedd, gadewch i fudferwi am funud neu ddwy, gan droi'r cymysgedd er mwyn ei atal rhag llosgi.
Os oes well gennych, gallwch ddefnyddio 160g o ffa coch sych. Gadewch i'r ffa socian mewn dŵr dros nos, yna gwaredwch ar y dŵr, a berwch y ffa mewn 1 litr o ddŵr nes eu bod yn feddal.