Marmalêd Winwns Coch

Onion
  • 100ml o olew had rêp (Blodyn Aur os yn bosibl)
  • 2 cilogram o winwns coch
  • 200g o siwgr brown
  • 160g o jeli cyrens coch, cynnyrch cartref os yn bosibl
  • 175ml o finegr balsamaidd
  • 175ml o finegr seidr
  • 1 llwy de o halen môr (Rydw i wrth fy modd gyda Halen Môn)
  • Pupur du

Gan ddefnyddio sosban fawr drom, cynheswch yr olew, ychwanegwch y winwns wedi'u sleisio a'u coginio ar wres isel am tua hanner awr, neu tan eu bod yn feddal. Cofiwch eu troi i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n glynu.
Ychwanegwch y siwgr a'r jeli cyrens coch a choginiwch am hanner awr arall, gan droi'r cymysgedd yn gyson. Yna ychwanegwch y finegr seidr a'r finegr balsamaidd a choginiwch y cyfan nes ei fod yn ludiog.

Llenwch y jariau sydd wedi'u steryllu a'u cynhesu yn y ffwrn, yna seliwch nhw gyda chloriau glân.
Nawr rhaid i chi fod yn amyneddgar a gadael y jariau am 3 mis cyn blasu'r marmalêd gyda bara cartref a chosyn mawr o gaws - blasus iawn!