Pate madarch a choriander

Mushrooms

50g o fenyn heb halen
2 sialotsyn, wedi'u torri'n fân
1 genhinen wedi'i thorri'n fân
2 ewin o arlleg, wedi'u gwasgu
100g o fadarch cnau castan, wedi'u torri'n fân
100g o fadarch shiitake, wedi'u torri'n fân
2 lwy de o fwstard grawn cyflawn
2 lwy fwrdd o crème fraiche
3 llwy fwrdd o goriander ffres wedi'i dorri
1 torth o fara Ffrengig, olew olewydd pur a dail salad cymysg i weini

Gwresogwch fenyn mewn padell ffrio fawr. Ychwanegwch y sialots, y genhinen a'r garlleg, a'u ffrio'n ysgafn am 7 munud nes eu bod wedi'u meddalu.

Trowch y gwres i fyny, ychwanegwch y madarch cnau castan a'r madarch shiitake, a'u coginio am 10 munud, gan eu troi nes bod y sudd wedi anweddu a'r madarch yn feddal. Ychwanegwch y mwstard a'r crème fraiche a'u troi, yna ychwanegwch halen a phupur. Coginiwch am 2 funud arall yna ychwanegwch y coriander wedi'i dorri, a chymysgwch y cyfan yn dda.

Gwresogwch y gril. Sleisiwch y bara Ffrengig ar letraws, ysgeintiwch ychydig o olew olewydd drosto, yna rhowch dan y gril nes ei fod yn lliw euraid. Defnyddiwch lwy i roi'r pâté poeth ar y tost, a gweinwch gyda dail salad.