Teisen Betys Siocled

Beetroot
  • 100g o bowdwr coco
  • 230g o flawd codi
  • 200g o siocled tywyll, wedi'i dorri'n ddarnau
  • 250g o fenyn heb halen
  • 250g o fetys wedi'i goginio
  • 3 ŵy mawr

I weini: Siwgr eisin, crème fraiche

Cynheswch y ffwrn i 180 gradd/ 350f/ Nwy 4
Taenwch fenyn a blawd dros dun y deisen

Hidlwch y powdwr coco a'r blawd codi, yna ychwanegwch y siwgr. Toddwch y siocled a'r menyn gyda'i gilydd mewn bowlen gwrth-wres uwchben sosban o ddŵr sy'n mudferwi. Rhowch y betys mewn prosesydd bwyd a chymysgwch nes iddo droi'n biwrî, chwisgiwch yr wyau, yna cymysgwch nhw gyda'r betys. Ychwanegwch y cymysgedd betys a'r cymysgedd siocled i'r cynhwysion sych a chymysgwch nhw'n dda.

Arllwyswch y cymysgedd i dun y deisen. Pobwch am 50 munud neu tan fod sgiwer sy'n cael ei rhoi i ganol y deisen yn dod allan yn lân. Tynnwch y tun o'r ffwrn a gadewch y deisen yn y tun am 10 munud cyn ei throi wyneb i waered ar resel wifren i oeri.

Gweinwch gyda siwgr eisin wedi'i ysgeintio drosti ac ychydig o crème fraiche.

Yn gwneud: 8 tafell