Supported by the Finnis Scott Foundation
Bresych Coch Melys a Sur Almaeneg

4 llwy fwrdd o fenyn
3 afal gwyrdd (wedi'u pilio a'u sleisio'n denau)
1winwnsyn (wedi'i dorri)
1bresychen goch (wedi ei thorri'n fân)
1 traean cwpanaid o finegr gwyn
1 traean - hanner llond cwpanaid o siwgr brown
2 lwy de o flawd
Halen
Pupur
1 traean cwpanaid o win coch sych
Toddwch y menyn mewn sgiled fawr ar wres canolig.
Ychwanegwch yr afalau wedi'u sleisio a'r winwnsyn wedi'i dorri a'u ffrio am tua 5 munud.
Ychwanegwch y fresychen wedi'i thorri'n fân a'r finegr; cymysgwch y cyfan a'i fudferwi ar wres canolig–isel.
Cymysgwch y siwgr brown a'r blawd mewn bowlen; ychwanegwch i'r cymysgedd o fresych, yna ychwanegwch y gwin; cymysgwch y cyfan i'w gyfuno.
Trowch y gwres i lawr a gadewch i'r cyfan fudferwi am tua 30 munud neu nes bod y fresychen yn feddal.
Ychwanegwch halen a llawer o bupur du i'r cymysgedd.