Ffritata Brocoli

Brocolli

Berwch y coesau brocoli am 2 funud, a’u draenio’n dda.

Gwresogwch ychydig o olew mewn padell gwrth-wres, ffriwch winwnsyn wedi’i sleisio am funud neu ddwy, ychwanegwch ddarnau o datws newydd sydd wedi’u coginio’n barod (bwyd dros ben?), a’u ffrio nes eu bod yn euraid.

Ychwanegwch y coesau brocoli, a throwch y gwres y lawr i wres canolig. Cymysgwch 4 wy gydag ychydig o halen a phupur, a’u hychwanegu i’r badell.

Coginiwch y cyfan am 3 neu 4 munud nes bod yr wyau wedi coginio.

Ychwanegwch ychydig o gaws wedi’i gratio (dewisol), a rhowch y ffritata o dan y gril.

Torrwch y ffritata yn ddarnau. Gallwch ei weini’n gynnes neu’n oer.