Supported by the Finnis Scott Foundation
Pasta Brocoli

- 125g o gaws Parmesan
- Darn mawr o frocoli
- 4-8 ansiofi (dewisol)
- 2 lwy fwrdd o olew olewydd
- 1 llond llwy fwrdd o gaprau
- ½ llwy de o tsili mân sych
- 3 ewin o arlleg wedi'u pilio
- 2 sbrigyn o deim ffres
- 500g o basta sych (cregyn, penne, rigattoni)
- Olew olewydd ar gyfer ffrio
Gratiwch y caws Parmesan mewn bowlen a thorrwch y brocoli wrth y bonyn. Hanerwch y bonyn brocoli mawr a'i roi mewn prosesydd bwyd (gyda'r llafn safonol) gyda'r ansiofi, caprau heb sudd, olew olewydd, tsili sych ac ewinedd o arlleg. Cymysgwch y cyfan nes ei fod yn bast, tebyg i pesto brocoli.
Berwch ddŵr mewn sosban fawr ddofn.
Rhowch 3 llwy de o olew olewydd mewn i badell ffrio fawr ar wres canolig ac ychwanegwch y past brocoli fesul llwyaid. Ffriwch am ychydig o funudau, gan ei droi, yna ychwanegwch y dail teim, heb y coesau coediog. Arllwyswch wydryn gwin o ddŵr i'r badell a chymysgwch y cyfan yn dda. Cadwch lygad arno, a'i droi bob hyn a hyn. Parhewch i'w goginio am tua 10 munud.
Ychwanegwch y pasta i'r sosban o ddŵr berw gyda phinsiad o halen a'i goginio gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Ar ôl tua 5 munud ychwanegwch y brocoli i'r pasta gydag ychydig o ddŵr ychwanegol os oes angen.
Pan fydd wedi'i goginio, draeniwch y pasta a'r brocoli mewn colandr ond cadwch ychydig o'r dŵr. Ychwanegwch y pasta a'r brocoli i'r badell ffrio â'r past ynddi, ac ychwanegwch lond llaw neu ddwy o gaws Parmesan wedi'i gratio. Gan ddefnyddio ledl, rhowch ychydig o'r dŵr coginio i'r pasta a chymysgwch yn ofalus nes bod gennych basta sgleiniog, rhydd.
Ychwanegwch halen a phupur du ffres os oes angen, a gweinwch gydag ysgeintiad o gaws Parmesan.